|
Teitl y ddeiseb: Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar Geiriad y ddeiseb: Mae athrawon plant byddar yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi datblygiad iaith plant byddar a’u datblygiad o ran cyfathrebu. Maent yn rhoi cyngor i deuluoedd plant byddar, yn ymweld â’r plant yn yr ysgol neu’r coleg, gan gefnogi eu haddysg, ac yn rhoi arweiniad i athrawon prif ffrwd ar ymwybyddiaeth o fod yn fyddar. Ond mae Cymru wedi colli un o bob pump o’i hathrawon plant byddar ers 2011. Mae tua 2,300 o blant byddar yng Nghymru. Rwy'n fam i Lola, sy’n bum mlwydd oed ac yn hollol fyddar, a Rudi, sy’n ddwy oed ac yn ddifrifol fyddar. Rhagor o fanylion: Mae angen cymorth parhaus ar blant byddar sy'n byw ym myd pobl sy’n clywed. Ond, ar hyn o bryd, mae Lola a Rudi yn cael dim ond awr o gefnogaeth yr wythnos gan athro plant byddar. Dros flwyddyn, yn ystod amser ysgol, mae hynny’n rhoi cyfanswm o 37 awr, sy’n llai na fy wythnos waith. Rwy’n credu y dylai pob plentyn byddar weld athro plant byddar o leiaf unwaith yr wythnos, ni waeth pa mor fyddar ydyw. Mae Lola mewn ysgol gynradd brif ffrwd, sy’n iawn iddi hi, ond pe bai hi mewn darpariaeth arbennig, byddai’n gweld arbenigwyr a phlant byddar eraill bob dydd. Mae ei chynnydd yn uchelgeisiol, ond os yw’r dechnoleg yn methu, ychydig iawn sydd gennym wrth gefn. Rwy’n credu bod taer angen hefyd i ddarparu cymorth sydd wedi’i dargedu’n fwy ar rieni plant byddar. Mae dros naw o bob 10 plentyn byddar yn blant i rieni sy’n clywed sydd heb unrhyw brofiad o beth mae’n ei olygu i fod yn fyddar. Pan wnaethom ddysgu bod Lola yn fyddar, roeddwn i mewn sioc. Ar ben hynny, roeddwn yn anymwybodol o’m diffyg gwybodaeth llwyr am faterion pobl fyddar. |
Mae oddeutu 2,260 o blant byddar byw yng Nghymru (Arolwg y Consortiwm Ymchwil i Addysg Byddar (CRIDE) 2023). Defnyddir y term ‘byddar’ i gyfeirio at blant â phob lefel o fyddardod, o’r ysgafn i’r dwys, gan gynnwys byddardod mewn un glust neu fyddardod dros dro, fel clust ludiog (neu ‘glue ear’). Mae’n bosibl na fydd rhai plant byddar, yn enwedig y rheini sydd wedi colli eu clyw dros dro, wedi’u cynnwys yn ffigurau CRIDE ar gyfer Cymru.
Nid oes gan Gymru ysgolion arbenigol ar gyfer dysgwyr byddar. Mae 81% o blant byddar yn mynychu ysgolion prif ffrwd, tra bod 8% yn mynychu ysgolion prif ffrwd gyda darpariaethau adnoddau, mae 9% yn mynychu ysgolion arbennig ac 1% yn cael eu haddysgu gartref. Nid anabledd dysgu yw byddardod, a gyda’r cymorth cywir dylai plant byddar allu cyflawni ar yr un lefel â’u cyfoedion sy’n clywed. Fodd bynnag, mae gan tua chwarter (24%) o blant byddar Anghenion Dysgu Ychwanegol a nodwyd.
Mae Athrawon Plant Byddar yn athrawon sydd wedi cymhwyso ar ôl cwblhau cwrs lefel ôl-raddedig, ac sydd naill ai’n hunan-ariannu neu’n cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol neu’r ysgol. Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu rhedeg gan brifysgolion yn Lloegr neu'r Alban.
Mae Cymdeithas Brydeinig Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer rôl arbenigol Athrawon Plant Byddar.
· Mae niferoedd Athrawon Plant Byddar wedi profi gostyngiad o 1 mewn 5 (20%) ers 2011.
· Yn 2023 roedd 65 o swyddi Athrawon Plant Byddar yng Nghymru, gyda 2% o swyddi gwag.
· Mae nifer yr Athrawon Plant Byddar sy'n gweithio mewn rôl peripatetig (yn gyffredinol, mae Athrawon Plant Byddar peripatetig (neu ymgynghorol) yn gweithio i wasanaethau cynghori a chymorth awdurdodau addysg lleol i blant a phobl ifanc byddar) wedi cynnydd o 3% ers 2022 ac wedi gostwng 17% ers i'r arolwg ddechrau yn 2011.
· Mae 36% o Athrawon Plant Byddar peripatetig (sy’n gweithio mewn darpariaethau adnoddau neu ysgolion/colegau nad ydynt yn benodol ar gyfer plant byddar) yn 50 oed neu’n hŷn ac debygol o ymddeol yn y 10-15 mlynedd nesaf.
O dan ddarpariaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, dylid rhoi Cynllun Datblygu Unigol statudol i bob dysgwr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn nodi eu hanghenion a'r ymyriadau sydd eu hangen arnynt. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru God Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru yn 2021, sy’n nodi sut y dylai ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf, a sut y mae’n rhaid iddynt wneud hynny.
Mae Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru wedi cynnig y dylai bron pob plentyn byddar gael ei ystyried yn gymwys ar gyfer Cynllun Datblygu Unigol fel mater o drefn. Fodd bynnag, yn ôl eu harolwg o aelodau a gynhaliwyd yn 2022, dywedodd chwarter yn unig o deuluoedd plant byddar fod gan eu plentyn Gynllun Datblygu Unigol, a soniodd gweithwyr proffesiynol am ddryswch parhaus o ran cymhwysedd.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi datblygiad a TGAU ‘Gwneud i Gymru’ yn Iaith Arwyddion Prydain, gyda’r addysgu i ddechrau ym mis Medi 2027.
Gwnaeth Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Faterion Byddar ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn datgan bod Cymdeithas Brydeinig Athrawon Plant a Phobl Ifanc Byddar Cymru wedi nodi bod athrawon plant a phobl ifanc byddar eisoes yn derbyn ceisiadau ar gyfer adnoddau addysgu, a bod angen sefydlu cymorth sylfaenol i ddysgwyr byddar cyn cyflwyno’r TGAU yng Nghymru. Mae pryder y bydd y TGAU newydd yn rhoi pwysau pellach ar y gweithlu Athrawon Plant Byddar, ac y gallai athrawon sy’n clywed nad ydynt yn Athrawon Plant Byddar, ac a allai, felly, fod heb y lefelau angenrheidiol o sgiliau Iaith Arwyddion Prydain, gael eu recriwtio i addysgu’r iaith.
Dywedodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn eu hymateb i ymgynghoriad Cymwysterau Cymru:
we strongly support Qualification Wales’ intention to ensure there are opportunities to learn BSL and to introduce the BSL GCSE currently being developed in England to Wales.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth o effeithiolrwydd ymyriadau addysgol i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu clyw (2019) a chrynhoi’r dystiolaeth fel canllaw: Cefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc â nam ar eu clyw mewn sefydliadau addysgol. Mae’r adroddiad yn gwneud y sylw hwn ar rolau proffesiynol:
Mae angen staff arbenigol i ymgymryd a/neu gynghori ar ddarpariaeth dysgu ychwanegol ac ymarfer cynhwysol a gwahaniaethu […] yng Nghymru a Lloegr yn draddodiadol cydgysylltir y trefniadau cymorth addysgol cymhleth hyn fel arfer gan athrawon cymwysedig y byddar. Gan mai anabledd prin yw byddardod, ni fydd ymarferwyr addysg prif ffrwd yn debygol o ddatblygu neu gadw gwybodaeth arbenigol drwy eu gwaith arferol (gan mai yn anaml y byddant yn dod i gysylltiad â phlentyn byddar). Mae hynny’n golygu y bydd y cyngor a gânt gan athrawon y byddar ynghylch ymyriadau’n arbennig o bwysig.
Ar 16 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad: A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?
Bu ymchwiliad y Pwyllgor yn ystyried mynediad at ofal plant ac addysg i blant a phobl ifanc anabl. Roedd yn cynnwys yr argymhelliad a ganlyn:
Dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun cyflawni clir ar gyfer mynd i’r afael â bylchau mewn swyddi addysgu arbenigol, ar gyfer Athrawon Plant Byddar, ac Athrawon Plant ag Amhariad ar eu Golwg, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at y cymorth hwn pan fydd ei angen arnynt. Dylai’r cynllun cyflawni hwn gynnwys targedau, amcanion ac amserlenni clir fel y gellir ei fonitro a chraffu arno.
Cafodd deiseb, P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb, ei ystyried gan y Pwyllgor Deisebau ym mis Mawrth 2015. Roedd adroddiad dilynol y Pwyllgor (Hydref 2018), yn argymell fel a ganlyn:
bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gynllunio'r Gweithlu ar gyfer gwasanaethau arbenigol AAA, gan ganolbwyntio'n benodol ar athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc byddar a thrwm eu clyw. Dylai hyn gynnwys ystyriaeth o gynaliadwyedd tymor hwy y gwasanaethau hyn.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2018, gan nodi fel a ganlyn:
Rydym yn llwyr ymrwymedig i gefnogi hyfforddi athrawon y byddar. Eleni, rydym wedi dyrannu cyfanswm o £289,000 dros dair blynedd i gefnogi hyfforddiant proffesiynol gweithlu synhwyrau'r awdurdodau lleol. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys hyfforddiant mewn Iaith Arwyddion Prydain ar amrywiol lefelau, a hyfforddiant ôl radd ar gyfer chwech o athrawon y byddar.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |